Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

 

Ymgynghoriad ar gylch gorchwyl ar gyfer ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn

 

RC23 ToR – Cyngor Gwynedd

 

 

Gweler isod rhai pwyntiau sydd wedi codi gan Swyddogion o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol a Gwasanaeth Darparu Cyngor Gwynedd.   Dyma rhai sylwadau i feddwl a’u cynnwys yn ystod yr ymgynghoriad.

 

·                     Effaith ansicrwydd ynglŷn âdyfodol darpariaeth ar breswylwyr heddiw ar cwestiwn o beth yw ymarfer gorau wrth symud o un model o ofal i fodel arall gan gofio am y bobl hynny sydd eisoes mewn gofal preswyl.  Mae angen bod yn sicr or modelau newydd rydym yn ei gyflwyno

·                     Effaith cau neu drosglwyddo cartref preswyl ar breswylwyr ac ar gymunedau.  Oes tystiolaeth yn cefnogi fod cau cartrefi yn cael effaith niweidiol ar gymunedau?   Mae trigolion yn cael ymwelydd yno i’w gweld o bryd, arwahan i hyn lle mae’r cartref yn eistedd o fewn y gymuned?

·                     Trafodaeth am Dai Gofal Ychwanegol (cael eu hyrwyddo’n arw ar draws Cymru) yng nghyd-destun yr angen i greu cymunedau cynhwysol, cefnogol ac amrywiol eu natur.  A oes perygl i Gymru ddilyn  model Americanaidd o “Gated Communities” gyda’r canlyniad mai lleihau bydd y cysylltiad gyda phobl hyn yn ein cymunedau?  Angen arbed hyn a sicrhau fod Tai Gofal Ychwanegol yn cael eu lleoli mewn cymunedau ac yn gadarn yng nghyd destun cymuned a diwylliant.

·                     Beth ydi’r disgwyliadau o ymgynghori?

·                     Mae angen meddwl am Bolisi Codi Tal yn ystod y cyfnod ymgynghori

 

Arwahan i’r uchod, rydym yn hapus gyda’r cynnwys sydd wedi ei gyflwyno yn barod.